[index]
1 Corinthiaid 13
Ydw, dw i am ddangos ffordd well fyth i chi.

1 Petawn i’n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond darn o fetal swnllyd neu symbal yn diasbedain.

2 Efallai fod gen i'r ddawn i broffwydo, a’r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf – neu’r wybodaeth i esbonio popeth! Efallai fod gen i ddigon o ffydd i ‘symud mynyddoedd’ – ond heb gariad dw i'n dda i ddim.

3 Efallai mod i’n fodlon rhannu’r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd – ond heb gariad, waeth i mi heb.

4 Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn ymffrostio, nac yn llawn ohono’i hun chwaith.

5 Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae’n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.

6 Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld anghyfiawnder – beth sy’n ei wneud yn llawen ydy’r gwir.

7 Mae cariad bob amser yn amddiffyn, mae bob amser yn credu, bob amser yn gobeithio, bob amser yn dal ati.

8 Fydd cariad byth yn dod i ben. Mae proffwydoliaethau’n mynd i ddiflannu; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn mynd i dewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth.

9 Oherwydd ychydig dyn ni’n ei wybod a dydy'n proffwydo ni ddim wedi datguddio'r cwbl i ni chwaith!

10 Pan fydd beth sy’n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi cipolwg rhannol i ni yn cael eu hysgubo o’r neilltu.

11 Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu’n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn.

12 A dyna sut mae hi – dyn ni ond yn gweld rhyw adlewyrchiad digon tila mewn drych metel ar hyn o bryd; ond bydd popeth yn hollol glir i ni maes o law. Ychydig iawn dyn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i’n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i.

13 Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy’n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad.
[index]